calon_pics

Croeso Calon


Mae Calon yn gwmni teledu sydd yn seiliedig yng Nghaerdydd.   Mae Calon yn arbenigo mewn cynhyrchu rhaglenni teledu a grewyd yng Nghymru ac a ddarlledir o gwmpas y Byd.

Mae ein cyfres feithrin ddiweddara Igam Ogam am ferch fach ddireidus o oes y dinosoriaid i'w gweld ar S4C, Milkshake ar Five a nifer o sianelau eraill ar draws y Byd.

Mae'r sioe byped Zoo Factor i'w gweld ar CBBC.

Mae Calon yn cynhyrchu deunydd aml gyfrwng. Mae ei rhaglenni teledu wedi ei gwerthu i dros 100 o wledydd ar draws y byd yn cynnwys holl ddarlledwyr Prydain, FR3, FR5, Canal Plus, ZDF, WDR, RAI, Al Jazeera ac ABC yn Awstralia.

Mae'r tîm creadigol wedi ennill gwobrau BAFTA ar gyfer Superted, Under Milk Wood, Hilltop Hospital a Holi Hana.   Enillodd Holi Hana wobr Broadcast am y Rhaglen Orau i Blant ym Mhrydain.

 



   Holi Hana